Jane Paice

Bywgraffiad
Astudiais gelf yn Norfolk a chael diploma mewn paentio olew. Rwy’n cael yr ysbrydoliaeth ar gyfer llawer iawn o fy ngwaith gan wychder y tir a’r môr sy’n amgylchynu fy nghartref ar Ynys Môn. Rwy’n angerddol dros gelf, dyma fy llawenydd a’m galar. I mi, mae’n ffordd o gofio.....ac anghofio.
Ar gyfer yr arddangosfa hon, rydw i wedi edrych ar dreftadaeth gyfoethog y diwydiant copr a’i gysylltiadau annatod a’r arfordir. Rydw i wedi ymchwilio i gyfosodiad moroedd stormus, deinamig a llonyddwch aflonydd yr ogofau tanddaearol. Byddaf yn ehangu ar y thema yma ar gyfer fy arddangosfa unigol, ’Elfennau’ yn Oriel Môn yn ddiweddarach eleni.