Jane Griffiths

Bywgraffiad
Fe ddes i fyw i ogledd Cymru bron i dair ar ddeg mlynedd yn ôl, ar ôl dilyn gyrfa ym myd addysgu.
Rwy’n mwynhau’r her o weithio gyda chyfryngau gwahanol, yn edrych yn fanwl ar eu posibiliadau a’u cyfyngiadau. Mae lliw, patrymau a siapiau yn elfennau amlwg yn fy ngwaith, ac maent yn tanio fy chwilfrydedd.
Fel arfer, byddaf yn dechrau gyda syniad amwys sy’n dod yn fwy clir wrth i’r gwaith fynd o ddarlun i waith print, batic neu bwythog.
Mae fy mhrintiadau leino yn dilyn techneg lleihau bloc (reducing block technique), gan weithio o arlliwiau golau i dywyll, ail dorri a phrintio sawl gwaith. Byddaf yn ceisio osgoi ail-brintio unrhyw drefn neu gyfuniad o liw, sy’n sicrhau bod pob print gorffenedig yn wreiddiol.
I wneud y Batics, mae’n rhaid darlunio ar ffabrig cotwm gyda chwyr poeth, ac yna mynd ati i baentio gan ddefnyddio lliwiau.
Efallai y bydd rhaid ailadrodd y broses hon sawl gwaith, gan adeiladu'r siapiau ac arlliwiau nes bod y cyfansoddiad yn gyflawn.
Yna, tynnir y cwyr a gellir ychwanegu manylion a gweadeddau gan ddefnyddio pwythau a darnau o ffabrig.