Neidio i'r prif gynnwys

Ian Fisher

Bywgraffiad

Mae fy ngwaith yn archwilio tirlun a diwylliant Cymru trwy ysgythriadau a lluniadau. Nid ail-greu darlun cywir o dirwedd arbennig yng Nghymru yw fy nod ond dal ‘ysbryd y lle’ ac edrych ar y berthynas rhwng tirlun Cymru a diwylliant, hanes, celf a mytholeg y wlad.

Yn y bôn, gweithred o luniadu yw ysgythriadau, ond mae'n bosibl cynhyrchu nifer ac amrywiaeth o ddelweddau ac, felly, mae'n fwy democrataidd ac yn cyfyngu llai na phrosesau gwneud delweddau eraill. Mae angen sgiliau lluniadu a gwneud printiau i ysgythru.