Deanne Doddington Mizen
Bywgraffiad
Rwy’n artist ffigurol proffesiynol ers dros bymtheg mlynedd. Yn wreiddiol, roeddwn yn arbenigo mewn paentio olew ond tua phum mlynedd yn ôl, penderfynais newid i ffordd fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar o weithio.
O’r herwydd, mae llawer o'r gwaith rwy'n ei gynhyrchu nawr yn arbrofol ac yn cynnwys deunyddiau naturiol wedi'u fforio'n sensitif a'u prosesu â llaw o fewn pellter cerdded i’m cartref.
Mae’r Maharen Cymreig yn ddelwedd y byddaf yn dychwelyd ati’n aml wrth weithio gyda chyfrwng newydd, gan ei fod yn fodd i archwilio ystod eang o gymhlethiadau.