Neidio i'r prif gynnwys

Andrew Mayers

Bywgraffiad

Mae Andy yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys paentio a lluniadu traddodiadol, ochr yn ochr â thechnegau digidol. Mae Llanw Ansicrwydd yn rhan o gyfres ddiweddar o weithiau sy'n cynnwys portreadau o bobl a fu'n rhan o brotestiadau. Yn dwyn y teitl ‘Achos Cyffredin’, mae’r delweddau’n canolbwyntio ar wynebau pryderus croestoriad o gymdeithas, yn unedig yn eu pryderon am yr economi, hinsawdd a’r gwrthdaro. Gwahoddir gwylwyr i edrych i mewn i lygaid y protestwyr i ddeall yr hyn y maent yn ei deimlo a chysylltu â’u profiad o heriau cyfoes.