
10 Mehefin - 12 Hydref
Rebecca Thorley Fox
Y Tymhorau yn yr Awyr Agored - Dilyn Tunnicliffe
Y Tymhorau yn yr Awyr Agored - Dilyn Tunnicliffe
Mae Becky yn paentio tirluniau a bywyd gwyllt yn yr awyr agored, gan gyfleu golau, awyrgylch a nodweddion y testun y mae’n ei arsylwi.
10 Mehefin tan 12 Hydref
Artist
Mae Becky yn byw ger yr arfordir yng nghanolbarth Cymru lle mae’n dod o hyd i bob math o ysbrydoliaeth. Mae’r casgliad hwn wedi’i hysbrydoli gan Ddyddiaduron Hâf a Gaeaf Tunnicliffe ac mae Becky wedi ymweld â’i hoff leoliadau paentio ar Ynys Môn i astudio’r bywyd gwyllt a gweld sut mae’r lleoliadau wedi newid ers cyfnod Tunnicliffe. Mae’r arddangosfa’n cynnwys pedwar paentiad sy’n cynrychioli’r Gwanwyn, Haf, Hydref a’r Gaeaf. Maent wedi’u hysbrydoli gan y gyfres Ladybird, ‘What to look for’. Darllenwch fwy am ymweliadau Becky â’r Ynys yma www.beckythorley-fox.co.uk
