
Leonard McComb
Natur, Egni, Gwefr
Dysgwch am ei yrfa fel artist rhyngwladol enwog, cerflunydd ac athro, a pham bod Ynys Môn wedi bod yn rhan mor bwysig o’i fywyd.
15 Chwefror tan 3 Awst
Artist

Bywgraffiad
Leonard McComb 1930-2018
Er bod yr artist wedi ennill rhan helaeth o’i lwyddiant yn y brifddinas, Ynys Môn, oddi ar arfordir gogledd Cymru, ddylanwadodd ar ei waith fwyaf. Roedd yn ymweld â’r ynys yn aml ar ôl i’w fam symud o ardal gythryblus Wythenshawe yn ystod yr 1970au, gan roi cyfle i’r artist brofi natur y tu hwnt i’w gartref a’i stiwdio yn Brixton. Roedd ei fam yn Gatholig a’i dad yn Protestannaidd (priodas ddadleuol iawn yn Iwerddon yn ystod yr 1930au), ac felly roedd McComb yn gyfarwydd iawn â rhagrith crefydd a’r syniad o drosedd. Yn wir, ei arsylwadau o natur, a’i astudiaethau amrywiol o Hanes Celf, Athroniaeth y Dwyrain a’r diwylliant Celtaidd a ysgogodd yr artist i fod â barn holistig am ddynoliaeth a’r byd naturiol. Tra bod gwaith McComb wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau darlunio trwyadl, roedd ei athroniaeth yn gwbl fodern. Celf sy'n cael ei drwytho â'r gred nad oes unrhyw raniad rhwng dynoliaeth a natur sy'n cael ei rhannu â chenedlaethau eco heddiw.
Yn 2019, derbyniodd Oriel Môn rôdd arbennig gan ystâd yr artist Leonard McComb RA (1930-2018) - casgliad o’i ddarluniadau a phaentiadau o Ynys Môn. Byddant yn cael eu harddangos yn Oriel Kyffin Williams, gyfochr â gwaith wedi’i fenthyca o’r Tate, National Portrait Gallery, Manchester Art Gallery a chasgliadau preifat. Bydd yr arddangosfa unigryw hon, sy’n wledd weledol, yn un o’r arddangosfeydd mwyaf sylweddol o’i waith hyd yma.
Uchafbwyntiau'r Arddangosfa:
Rock and Sea Anglesey, 1983
Y darlun mwyaf mewn casgliad o Brydain yn 'dirgrynu' oddi ar y waliau
Rock and Sea Anglesey, 1983, yw'r gwaith mwyaf a wnaed gan yr artist ac mae’n mesur 10m x 3m. Bu’n gweithio am naw diwrnod ar y clogwyni ym Mae Benllech, gan sylwi ar gysylltiad y môr, y clogwyni, a'r awyr i greu’r gwaith hwn sy’n cyfleu egni naturiol y creigiau. Fe’i gwnaed ar 84 o dudalennau papur mawr, ar îsl gyda chreigiau calchfaen yn ei angori, ac er yr oriau a dreuliodd ar y creigiau ni chyfyngwyd ar raddfa ei waith. Gan ddefnyddio pensil, brwsh ac inc, a dyfrlliw, mae miloedd ar filoedd o linellau yn darlunio cornel ddramatig o Ynys Môn fel delwedd bwerus sy’n dirgrynu. Mae'r gwaith yn cyfleu popeth yr oedd McComb yn sefyll drosto: ei athroniaeth am y byd naturiol, arsylwadau o fywyd, a’r sylw amlwg i fanylion. Enillodd Rock and Sea Anglesey Wobr Hugh Casson am Ddarlunio yn 2005 yn Sioe Haf yr Academi Frenhinol, ugain mlynedd ar ôl ei greu.


