Neidio i'r prif gynnwys
Darlun o bedwar person yn eistedd rownd bwr.
20 Medi - 2 Tachwedd

Gerda Roper

Dawnsio i Gerddoriaeth Amser

Dawnsio i Gerddoriaeth Amser

Gerda Roper - wrth baentio rydw i fel arfer yn dethol llond llaw o’r delweddau, ffilmiau, paentiadau a ffotograffau sydd wedi creu argraff arnaf i.

Arddull

Ffigurol

Cyfryngau

Olew ar Liain, Pensil ar Bapur

Mae Gerda Roper yn dweud, “Mae’r côf fel gorsaf drenau gyda threnau’n cario pob math o atgofion i mewn ac allan o’r orsaf yn dragywydd – fy nghartref, cariadon, hen bapurau wal, persawrau a pherfformwyr.Wrth baentio rydw i fel arfer yn dethol llond llaw o’r delweddau, ffilmiau, paentiadau a ffotograffau sydd wedi creu argraff arnaf i.Mae’n braf gallu creu llun llonydd allan o ddryswch y côf. Mae tawelwch y llun yn fy swyno. Mae’r gwead o atgofion a’r delweddau yr ydw i wedi’u creu yn creu realiti newydd”. 

Merch yn cysgu ar wely gyda cefndir dail glas.